Rheoli eich Pensiwn y Wladwriaeth
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i reoli eich manylion a’ch taliadau Pensiwn y Wladwriaeth:
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:
- newid eich manylion banc
- newid eich rhif ffôn
- newid eich cyfeiriad e-bost
- newid pa mor aml rydym yn talu eich Pensiwn y Wladwriaeth
- newid y cyfeiriad ble rydych yn byw
- gwirio pryd y byddwch yn cael eich taliad Pensiwn y Wladwriaeth nesaf
Mae hwn yn wasanaeth newydd, byddwch yn gallu rhoi gwybod am newidiadau eraill ar-lein yn y dyfodol.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi gofrestru os nad ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn o’r blaen
I gofrestru, byddwch angen:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- cyfeiriad e-bost
- rhif ffôn symudol
Bydd angen i chi hefyd ateb rhai cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych chi. Mae hyn yn helpu i’ch amddiffyn rhag twyll.
Os ydych eisoes wedi cofrestru
Byddwch angen y cyfeiriad e-bost, y ffôn symudol a’r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru.
Dechrau nawrOs ydych angen dweud wrthym am newidiadau eraill
I roi gwybod am newidiadau eraill, fel newid cyfeiriad, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn dros y ffôn neu drwy’r post.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Chanolfan Bensiwn Gogledd Iwerddon dros y ffôn neu drwy’r post.