Neidio i'r prif gynnwys

Mae hwn yn wasanaeth newydd. Helpwch ni i’w wella a rhowch eich adborth (agor mewn tab newydd)

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Rheoli eich Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.

Mae’r datganiad hwn ond yn berthnasol i’r gwasanaeth Rheoli eich Pensiwn y Wladwriaeth, ar gael yn https://www.manage-state-pension.service.gov.uk

Defnyddio’r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth yn defnyddio arddulliau, patrymau a chydrannau cyffredin o System Ddylunio GOV.UK sy’n cael eu hystyried yn eang i fod yn hygyrch.

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch.

Os nad yw’r defnyddiwr yn gwneud unrhyw beth am 28 munud, mae deialog ’modal’ yn agor i rybuddio’r defnyddiwr eu bod ar fin cael eu allgofnodi. Mae’r dialog ’modal’ hwn yn defnyddio testun deinamig sy’n cyfrif i lawr i sero. Wrth ddefnyddio nodwedd ’Hover Text’ ar macOS, nid yw’r testun hwn yn ymddangos yn y lleoliad rhoi’r testun. Mae hyn oherwydd bod y testun wedi’i farcio mewn ffordd i atal darllenydd sgrin rhag ei ddarllen yn uchel bob eiliad.

Adborth a manylion cyswllt

Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch. Gallwn eu darparu mewn ffurf gwahanol, er enghraifft print bras, recordiad sain neu braille.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Gallwn ddarparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu Iaith Arwyddion Iwerddon (ISL) os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth video relay.

I ddarganfod mwy:

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, gallwch roi gwybod am broblem hygyrchedd (agor mewn tab newydd).

Y drefn gorfodaeth

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ y ’rheolaethau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.1 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn parhau i newid dyluniad y gwasanaeth ac yn parhau i brofi’r gwasanaeth â llaw yn erbyn safon WCAG 2.1.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hon ar 28 Medi 2023. Fei’i diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2023.

Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 1 Medi 2023. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.